Propel yn Dewis Ymgeiswyr Rhanbarthol ar gyfer Gorllewin De Cymru

Tim Thomas

Mae Propel wedi dewis pedwar ymgeisydd i ymladd rhanbarth Gorllewin De Cymru yn etholiadau’r Senedd ar 6 Mai. Y prif ymgeisydd yw Cadeirydd Propel ac Arweinydd Grŵp Propel Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Tim Thomas.
 
Dr Gail John sydd yn ail ar y rhestr, gyda James Henton, myfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Gastell-nedd, yn drydydd a'r ymgyrchydd cymunedol Lee Fenton yn y pedwerydd safle.

Mae'r Cynghorydd Tim Thomas yn cynrychioli ward Ynysawdre yn Etholaeth Ogwr. Mae Tim yn gweithio fel Swyddog Polisi Tai a chyn hynny roedd yn Gadeirydd yr ymgyrch amlbleidiol 'Ie i Bwerau Deddfu Pellach' yn etholaethau Ogwr a Phen-y-bont.

https://youtu.be/PSMIhN4Xz0g

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Thomas:

"Rwy'n falch iawn bod aelodau wedi rhoi eu ffydd ynof a hynny o ystyried cryfder y rhestr ymgeiswyr. Mae gennym dîm ymgyrchu unedig o bob rhan o'r rhanbarth, gyda sgiliau unigryw ac amrywiol.

"Mae angen pencampwyr ar Gymru nad ydyn nhw'n gwneud gwleidyddiaeth fel arfer. Rydyn ni'n sefyll yn yr etholiad hwn i roi ein cymunedau yn gyntaf. Byddwn ni'n cyflwyno ein polisïau cadarnhaol o gyfiawnder tai, annibyniaeth ynni i Gymru, rhoi democratiaeth uniongyrchol fodern ar waith, sicrhau atebolrwydd o ran gwasanaeth cyhoeddus, rhoi plant cyn elw mewn cartrefi gofal a dod â chyfnodau clo yng Nghymru i ben.

"Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr etholiad a'r cyfle i ddod â newid sydd mawr ei angen ar Gymru."

Ers y cyfarfod, mae’r ymgeiswyr dan arweiniad y Cyng. Thomas, wedi cyfarfod â thrigolion lleol yn Sgiwen yn dilyn y llifogydd, wedi cyfarfod â lesddeiliaid o Abertawe sy'n pryderu am gladin mewn eiddo preswyl uchel ac wedi bod yn ymgyrchu dros yr angen i gynnal profion annibynnol o’r DNA mewn perthynas â llofruddiaethau Clydach.

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2021-03-30 12:14:37 +0100