Cofrestru Propel yn swyddogol fel plaid wleidyddol

Propel Candidates

Mae plaid wleidyddol fwyaf newydd Cymru, Propel, wedi’i chofrestru’n swyddogol gyda’r Comisiwn Etholiadol.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd ymgeiswyr y blaid yn sefyll yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai o dan faner Propel.

Arweinir y blaid gan Neil McEvoy AS, Aelod Senedd Cymru dros Ganol De Cymru. Mae'r blaid hefyd yn brolio wyth Cynghorydd ar bedwar awdurdod lleol gwahanol, yn ogystal â nifer o gynghorwyr cymunedol.

Mae Propel eisoes wedi dechrau cyhoeddi ei lechen o ymgeiswyr ledled Cymru, gan gynnwys y Cynghorydd Peter Read yn Nwyfor Meirionnydd, ac yntau hefyd yn bencampwr anabledd Gwynedd. Yn rhanbarth Gorllewin De Cymru cyhoeddodd Propel mai’r Cyng Tim Thomas fydd ei phrif ymgeisydd.

Dywedodd arweinydd y blaid, Neil McEvoy:

“Mae'n amser cyffrous iawn i Propel. Mae ein haelodaeth yn tyfu, rydyn ni wedi dechrau cyhoeddi ein hystod o ymgeiswyr rhagorol ledled y wlad, rydyn ni wedi mabwysiadu polisïau ein plaid a nawr rydyn ni'n blaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru'n swyddogol.

“Mae angen hyrwyddwyr ar Gymru ac ni fydd ein hymgeiswyr yn llaesu dwylo wrth sefyll dros ein cymunedau a'n cenedl. Rydym yn falch o gael pencampwr byd bocsio du cyntaf Cymru, Steve Robinson, yn sefyll drosom yng Nghanolbarth De Cymru a hyrwyddwr anabledd Gwynedd, Peter Read, yn sefyll yn Nywfor Meirionnydd.

“Mae pob un o'n hymgeiswyr wedi wynebu adfyd go iawn yn eu bywyd ac maen nhw wedi cael y nerth i fynd ymlaen i wneud pethau eithriadol.

“Mae gennym ni arwyddair yn Propel, sef ‘nid gwleidyddiaeth fel arfer ’. Nid ydym am ymdebygu i’r partïon eraill, sefydliadol Rydyn ni'n dod â rhywbeth gwahanol iawn. Rydym yn ymgyrchwyr sy'n edrych i ddod â'r llygredd a'r ffwndro sy'n rhemp ym mywyd cyhoeddus Cymru i ben. Ac nid ydym yma i ddadlau dros friwsion gloddest Llundain. Byddwn yn cyhoeddi polisïau i gynyddu economi Cymru yn wirioneddol gan gyfoethogi’n gwlad.

“Mae hynny'n dechrau gyda datgloi Cymru. Ni fydd yr unig blaid gredadwy yn etholiadau mis Mai i gyflwyno achos gwyddonol a meddygol dros ddod â gwaharddiadau hynod niweidiol Drakeford i ben. Rydyn ni'n mynd i roi dewis i bobl ddod â chyfyngiadau Cymru i ben, achub bywydau ac adfer rhyddid.”

Dywedodd ymgeisydd Canol De Cymru a chyn-bencampwr bocsio y byd, Steve Robinson:

“Mae Llafur wedi bod yn gwegian ers blynyddoedd. Mae'n bryd iddyn nhw roi’r menig heibio am fyth. Mae yna heriwr newydd nawr. Rydyn ni'n awchus, rydyn ni wedi ein sbarduno ac rydyn ni'n barod i ennill. Rydyn ni'n mynd i ddechrau gyda Neil McEvoy yn trechu'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yng Ngorllewin Caerdydd.”

Dangos 1 ymateb

  • Propel Wales
    published this page in Blog 2021-03-03 14:35:04 +0000